To read this page in English click here.

 

Mae’r IWW Cymru yn gangen o Weithwyr Diwydiannol y Byd (Industrial Workers of the World). Dyma’r gangen dros Gymru gyfan ac mae’n tyfu’n gyflym.

Mae’r IWW yn undeb hunan-drefniedig a radical sy’n croesawu pob
gweithiwr.

Cawn gyfarfodydd yn gyson ar hyd Cymru:

  • Ar Nos Iau gyntaf y mis am 7.30yh yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yng Nghaerdydd
  • Ar ail Nos Iau y mis am 7yh yng Nghanolfan yr Amgylchedd, Abertawe
  • Nawr ac yn y man yn Wrecsam – cysylltwch ag Ysgrifennydd Gogledd Ddwyrain Cymru er mwyn cymryd rhan

 

Mae gan IWW Cymru cynrychiolwyr gweithle trwyddedig a all helpu chi os
oes gennych broblem yn y gwaith.

Gallwn hefyd rhoi cyngor a hyfforddiant os hoffech recriwtio ac
ymdrefnu eraill yn eich gweithle.

 

Os hoffech mwy o wybodaeth am IWW Cymru plîs cysylltwch â ni trwy’r
manylion ar y tudalen hwn, neu os hoffech ymuno â’r Un Undeb Mawr
gallwch ddefnyddio ein ffurflen ymaelodi ar-lein.