Rhaglith IWW

Rhaglith i Gyfansoddiad IWW

Nid oes gan y dosbarth gweithiol na’r dosbarth cyflogi unrhyw beth yn gyffredin. Ni all fod dim heddwch tra fod newyn ac angen ymysg miliynau o bobl sy’n gweithio, a bod elit bychan; y dosbarth cyflogi, yn cael yr holl bethau da mewn bywyd.

Mi fydd rhaid i’r frwydr barhau rhwng y ddau ddosbarth yma nes bod y gweithwyr y byd yn trefnu fel dosbarth, yn cymryd meddiant o’r dulliau o gynhyrchu, yn diddymu’r system cyflog, ac yn byw mewn cytgord â’r Ddaear.

Gwelwn fod y canoli o rheolaeth diwydiannau gan llai a llai o bobl yn gwneud hi’n anoddach i’r undebau llafur ymdopi gyda grym cynyddol y dosbarth cyflogi. Mae’r undebau llafur yn meithrin sefyllfa sy’n caniatáu i un set o weithwyr gael eu ddefnyddio yn erbyn set arall o weithwyr yn yr un diwydiant, a thrwy hynny helpu trechu ei gilydd mewn rhyfeloedd cyflog. Ar ben hynny, mae’r undebau llafur yn helpu y dosbarth cyflogi i gamarwain y gweithwyr yn y gred bod gan y dosbarth gweithiol buddiannau sy’n gyffredin gyda’u cyflogwyr.

Gall yr amodau hyn cael eu newid a gall ddiddordeb y dosbarth gweithiol cael eu cadarnhau dim ond gan sefydliad a ffurfiwyd yn y fath fodd bod ei holl aelodau mewn unrhyw un diwydiant, neu yn yr holl ddiwydiannau os oes rhaid, yn pallu gweithio pryd bynnag fod streic neu cloi allan sy’n digwydd o fewn unrhyw adran ohono, felly mae’n golygu bod anaf i un yn anaf i bawb.

Yn lle yr arwyddair ceidwadol, “Ddiwrnod o gyflog teg am ddiwrnod o waith teg”, mae’n rhaid i ni ysgrifennu ar ein baner yr arwyddair chwyldroadol, “Diddymu’r system cyflog.” Cenhadaeth hanesyddol y dosbarth gweithiol yw i ddinistrio cyfalafiaeth. Mae’n rhaid i’r fyddin o gynhyrchu gael eu trefnu, nid yn unig y frwydr bob dydd gyda cyfalafwyr, ond hefyd i barhau i gynhyrchu pan fydd cyfalafiaeth wedi cael eu diddymu. Drwy drefnu diwydiant, rydym yn ffurfio strwythur y gymdeithas newydd o fewn cragen yr hen.