To read this page in English click here.

“Nid yw’n syndod bod nifer o Wobblies [aelodau o’r IWW] wedi teithio i Sbaen i frwydro yn y Rhyfel Cartref. Gwasanaethodd rhai gyda’r Confederación Nacional del Trabajo (CNT), ond ymddengys i’r mwyafrif gwasanaethu gyda’r Brigadau Rhyngwladol. Enillodd Wobblies megis Mike Raddock, Ray Steele a golygydd-i-ddod yr Industrial Worker Pat Read clod fel rhai o’r milwyr gorau yn y 15fed Brigâd Ryngwladol.” (http://libcom.org/history/iww-members-who-fought-spanish-civil-war)

Ar y 14eg o Hydref 2017 bydd IWW Cymru yn coffáu’r rheini a wasanaethodd yn y Frigâd Ryngwladol a’r frwydr ehangach yn erbyn ffasgiaeth. Dyma ddigwyddiad i gofio cyfraniad Cymrodyr Cymreig yn y frwydr a drefnir gan Ymddiriedolaeth Goffa’r Frigâd Ryngwladol Cymru, un rhan o gyfres o ddigwyddiadau dros y penwythnos.

Dydd Sadwrn y 14eg o Hydref – 11.00am – Cofeb Genedlaethol Cymru, Parc Cathays (tu ôl i Neuadd y Ddinas).

Bydd areithiau, barddoniaeth a cherddoriaeth gyda Chôr Cochion Caerdydd yn arwain y canu, ac yn ystod y digwyddiad gosodir torch o flodau.

Croeso i bawb ymuno â’r digwyddiad cyhoeddus hwn!